English

Yr hyn a wnawn yn One-Two-Tree?

Yn One-Two-Tree, rhedwn sesiynau ysgol y goedwig a’r amgylchedd wedi eu llunio’n benodol gyda thasgau o fewn cyrraedd y grŵp. Y cyfranogwyr sy’n arwain ac yn cychwyn y sesiynau. Mae’r gweithgareddau yn amrywio gan ddibynnu ar y grŵp, fe allent gynnwys:

  • Defnyddio offer llaw
  • Cerdded ar hyd boncyffion llithrig
  • Cael eich hunain yn fwdlyd
  • Cwcio ar ben tâ
  • Gwneud celf a chrefft naturiol
  • Chwarae gemau gyda rhifau neu eiriau
  • Dysgu am wahanol fathau o goeden
  • Mynd i’w chanol hi

Yn anad pob dim, mae’n sesiynau ni yn hwyl, gan wneud dysgu yn haws!

Beth ydy manteision sesiynau One-Two-Tree ?

  • Rhoddant i gyfranogwyr fynediad i brofiadau uwchlaw a’r tu hwnt i fywyd pob dydd
  • Dysgu asesu risg a ffurfio barn annibynnol
  • Maen nhw’n gynhwysol ac yn gyfrwng ymgryfhau
  • Hunanhyder a hunan-gred yn cael eu hyrwyddo
  • Ysgogir y dychymyg
  • Hyrwyddant agwedd ‘gallaf wneud hyn’
  • Datblygant berthynas gyda chyfoedion ac oedolion
  • Datblygant sgiliau newydd i’w defnyddio drosodd a thro mewn bywyd pob dydd
  • Tasgiau hunanamsugnol – anghofir am straen bywyd pob dydd
  • Datblygant sgiliau cymdeithasol, corfforol ac emosiynol
  • Gwaith tîm – grwpiau’n gweithio gyda’i glydd i gyflawni’r un gôl

Argymhellir ymweld â’r coetiroedd sawl tro er mwyn adeiladu go iawn ar y sgiliau hyn. Argymhellwn leiafswm o 6 ymweliad.

Sut rydym yn cyflawni hyn ?

  • Cynlluniwn y sesiynau yn ofalus gyda’r bobl sydd â rhan ynddynt
  • Goruchwylir pob sesiwn gan arweinwyr cwbl gymwys a brwdfrydig
  • Arsylwi a hwyluso a wnawn yn hytrach na gorchymyn
  • Defnyddir arddulliau dysgu unigol i lywio’r dasg
  • Rhoddwn gefnogaeth gadarnhaol
  • Byddwn wastad yn trafod y dasg ac unrhyw risgiau cysylltiedig â hi. Rhoddir i’r myfyrwyr y cyfrifoldeb i benderfynu a ydynt yn teimlo’n hyderus ac a yw’r sgiliau priodol ganddynt i ymgymryd â’r dasg
  • Rydym bob amser wrth law i ymyrryd yn dawel os teimlwm fod risg amhriodol yn cael ei chymryd
  • Rydym yn gwerthuso pob sesiwn cyn symud ymlaen at yr un nesaf gyda grŵp

Beth yw Ysgol y Goedwig ?

Proses ysbrydoledig yw Ysgol y Goedwig a ddatblygwyd yn wreiddiol yn Sgandinafia. Daethpwyd â hi i’r DG yn y 1950au. Mae Ysgol y Goedwig yn addas i bob oed, o 6 mis i 100 mlwydd oed.