Gan mai yn yr awyr agored y byddwch chi drwy’r amser, y mae pethau y bydd angen i chi ddod â nhw efo chi i wneud yn siwr y gallwch brofi yn llawn y gweithgareddau yr ydym wedi eu paratoi.
Sef:
- Esgidiau cryf / esgidiau glaw neu welingtons
- Esgidiau nad oes ots os ydyn nhw’n mynd yn fwdlyd ac sydd yn gyfforddus i gerdded ynddyn nhw ar dir anwastad
- Dillad cynnes
- Mae dillad thermol ac o waith cnu yn ddelfrydol, sicrhewch eich bod yn dod â digon o haenau
- Dillad tywydd gwlyb / gwrthlaw
- gan mai yng Ngogledd Cymru yr ydym!
- Dillad i newid iddyn nhw
Rhag ofn!
Yn ychwanegol at yr uchod, dewch â’r dillad tymhorol a ganlyn os gwelwch yn dda:
Yn yr Haf
Het haul
Eli Haul
Yn y Gaeaf
Het gynnes
Menig
Sgarff
Amryw bâr o ’sanau cynnes