Y mae sesiynau One-Two-Tree yn cyd-fynd â’ch cwricwlwm chi ac yn eistedd o’i fewn. Maent yn rhan hanfodol o’ch amserlen wythnosol a gallant roi i blant sgiliau ychwanegol at y rhai hynny a ddysgir mewn ystafell ddosbarth. I rai athrawon a/neu arweinwyr sydd yn camu y tu allan i ddrysau’r ystafell ddosbarth, i mewn i amgylchedd anghyfarwydd, mae hi dipyn bach yn anghyfforddus. Ein nod yw tawelu eich meddwl.
Cyn y trafodaethau, cyfarfyddwn ag athrawon a disgyblion. Cytunwn ar sesiynau unigol i weddu i’ch canlyniadau a’ch targedau dysgu ond cyflwynwn hwy a’u hwyluso yn yr awyr agored. Cysylltir pob sesiwn â’r Cwricwlwm Cenedlaethol a chynigiwn sgiliau ychwanegol.
Mae One-Two-Tree yn rhedeg sesiynau ysgol y goedwig a’r amgylchedd sydd yn cyd-fynd â datblygiad personol a chymdeithasol, ymddygiad cyffredinol a lles plant o bob oed. Ar yr un pryd mae pob un o’n sesiynau yn cynnig y cyfle i ddatblygu hyder personol, iechyd a ffitrwydd gwell a lles seicoloeg trwy gefnogaeth gadarnhaol. Y wir fantais yw bod hyn i gyd yn cael ei gyflawni wrth aros o fewn cwmpas y cwricwlwm cenedlaethol, gan ei wneud yn gyfle i ennill sgiliau bywyd gwirioneddol wych.
I’r myfyrwyr gael y mwyaf o’u profiad, argymellwn un sesiwn hanner diwrnod yr wythnos am 6 wythnos.
Rydym hefyd yn rhedeg sesiynau unwaith ac am byth, hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn blasu neu ddathlu megis diwedd tymor. Rhedwn sesiynau drwy gydol y flwyddyn – does dim ffasiwn beth â thywydd drwg, dim ond y dillad anghywir! (Gweler ein rhestr o argymhellion yma.)
Maen nhw wrth eu bodd efo fo!
Mae hi mor syml â hynny, ond am ddadansoddiad mwy manwl o safbwyntiau Estyn / Ofsted, cliciwchyma.
Rydym wedi ein hyswirio yn llawn ac ysgrifennwn asesiadau risg i’r gweithgareddau hynny sydd yn berthnasol i bob sesiwn.
Byddwch cystal â sylwi y byddwch chi, yn ystod y sesiynau, yn dal yn gyfrifol am les, ymddygiad, Iechyd a Diogewlch a Chymarebau Staff - Plant eich dosbarth.