English

Ein Gwerthoedd

‘Os ydym am achub amgylcheddaeth a’r amgylchedd, mae’n rhaid inni hefyd achub rhywogaeth sydd mewn perygl, y plentyn ym myd natur’
(Louv, 2005)

Yn One-Two-Tree, teimlwn yn gryf ei bod yn bwysig addysgu plant am yr amgylchedd ac o’i fewn. Nid yw dysgu traddodiadol yr ystafell ddosbarth yn gweddu i bob plentyn - rydym i gyd yn wahanol. Rydyn ni eisiau rhoi i bob plentyn y cyfle i ddysgu sgiliau ar gyfer bywyd, perthnasol i’w ddatblygiad, ond ar yr pryd rydym am adael i’r plant ddal bod yn blant. Mae’n sesiynau ni wedi eu cysylltu â’r Cwricwlwm Cenedlaethol ond wedi eu seilio yn amgylchfyd yr awyr agored. Yn anad dim, mae’n sesiynau ni yn hwyl, gan wneud dysgu yn haws!

Teimlwn ei bod yn bwysig rhoi i blant set o sgiliau bywyd a phecyn cymorth y gall y plant eu defnyddio yn eu bywydau yn y dyfodol. Rydyn ni eisiau rhoi cyfle i blant ddysgu am yr amgylchedd naturiol, i helpu i hyrwyddo gwell dealltwriaeth a pharch at eu hamgylchedd a gwarchod dyfodol ein planed. Rydym yn hyblyg iawn yn ein hagwedd ac yn croesawu pob ymholiad oddi wrth bob grŵp a phob unigolyn.