English

Partïon

Ydych chi’n chwilio am barti Pen-blwydd gyda gwahaniaeth? Ydych chi eisiau cael llawer o hwyl? Ydych chi eisiau cael parti unigol, gwirioneddol unigryw yn arbennig i’ch plentyn chi? Os ydych, rydych chi yn y lle iawn.

Beth ydyn ni’n ei wneud?

Cynhelir parti pen-blwydd eich plentyn y tu allan, drwy gydol y flwyddyn, sut dywydd bynnag fydd hi * Gallwn ddarparu cysgod rhag y tywydd – y cyfan sy angen i chi ddod â nhw ydy brwdfrydedd, synnwyr ffraethineb, dychymyg a hen ddillad cynnes a welingtons. Cliciwch yma i weld y dillad a argymhellir.

Mae ein partïon pen-blwydd i gyd wedi eu teilwa i gyd-fynd â'ch diddordebau. Mae’r partïon yn addas i unrhyw oed neu grŵp o unrhyw faint.

Môr-ladron
Tylwyth Teg a Choblynnod
Adeiladu Lle Cuddio
Cowbois & Indiaid
Fforwyr
Gwneud Bwa & Saeth
Helfa Bwystfilod Bach
Celf & Chrefft Naturiol
Gemau yn y Coetir
Pasteiod Mwd & Cherfluniau
Anturiaethau’r Dyn Ffyn
Offer Cerddorol


Mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Gan fod pob parti yn cael ei deilwra i ddiddordebau’r plentyn (neu’r oedolyn) gallwch chi benderfynu beth rydych chi eisiau neu ddim eisiau ei wneud.

Er mwyn mynd i hwyl y thema argymhellwn eich bod yn gofyn i’ch ffrindiau ddod yn y wisg ffansi berthnasol i thema eich parti.

*Noder os gwelwch yn dda, y gallai gwyntoedd uchel ein gorfodi i aildrefnu eich parti, neu newid y lleoliad rhag ofn y bydd coed yn disgyn.